BAAF
British Association for Adoption & Fostering
Media

Home
> About BAAF
> Your country or region
> Join BAAF
> Members' area
> Media
> Campaigns
> Contact BAAF

Fostering & adoption
> First questions
> Legislation & practice
> Statistics
> Financial information

Resources
> Publications
> Journal
> Training & conferences
> Advice & consultancy
> Consultations
> Find an agency
> Links

You can help
> Donate
> Fundraising

Press releases

Home > Media > Press releases > Adroddiad newydd o bwys yn galw am £37.8 miliwn ar gyfer gofal maeth o ansawdd da i blant yng Nghymru

Adroddiad newydd o bwys yn galw am £37.8 miliwn ar gyfer gofal maeth o ansawdd da i blant yng Nghymru

Issued: 28 November 2005

Mae'r Rhwydwaith Maethu a'r Gymdeithas Mabwysiadu a Maethu Brydeinig (BAAF) yn galw ar Lywodraeth Cynulliad Cymru i fuddsoddi £37.8 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau gofal maeth.

Bydd y ddwy elusen yn lansio eu hadroddiad unigryw yng Nghymru, 'Cost Gofal Maeth - Buddsoddi yn nyfodol ein plant', yn adeilad Cynulliad Cenedlaethol Cymru ddydd Mawrth 28 Tachwedd 2005 rhwng 5.30 a 6.30pm. Bydd Val Lloyd AC yn cyflwyno'r digwyddiad gyda Jane Hutt, Rheolwr Busnes Llywodraeth Cynulliad Cymru.

Mae'r adroddiad, sef yr astudiaeth gyntaf erioed o'i bath, yn asesu'r gwario sydd ei angen i drawsffurfio gwasanaethau gofal maeth er mwyn rhoi'r un cyfleoedd i blant sy'n derbyn gofal cyhoeddus gael dyfodol llwyddiannus â phlant eraill yn ein cymdeithas.

Mae Cost Gofal Maeth yn defnyddio profiadau gweithgor arbenigol o fyrddau iechyd, ymddiriedolaethau, asiantaethau maethu annibynnol ac awdurdodau lleol ar draws y DU. Cafodd nifer o dybiaethau pwysig eu gwneud am ffurf gwasanaeth gofal maeth o ansawdd da.

Mae tystiolaeth yn dangos bod prinder o 750 o ofalwyr maeth o leiaf ar draws Cymru ac mae hyn yn cyfrannu tuag at ddiffyg dewis i blant, amharu ar leoliadau ac ansefydlogrwydd pellach. Byddai'r gwariant ychwanegol yn mynd i'r afael â'r argyfwng mewn recriwtio a chadw gofalwyr maeth ac yn sicrhau bod plant yn derbyn y gofal o ansawdd da sydd ei angen arnynt, gan eu galluogi i wneud yn dda yn yr ysgol ac i setlo yn y gymuned.

Meddai Robert Tapsfield, Prif Weithredwr y Rhwydwaith Maethu:
"Am y tro cyntaf, mae gennym gyfrifiad sylweddol a chadarn o faint mae'n costio i ddarparu gwasanaeth gofal maeth. Mae'r adroddiad yn dangos fod prinder enfawr yn y cyllido ar hyn o bryd. Galwad yw hwn i Lywodraeth Cynulliad Cymru fuddsoddi £37.8 miliwn ychwanegol mewn gwasanaethau gofal maeth bob blwyddyn. Dylem wneud yn siwr fod y deilliannau i blant sy'n derbyn gofal maeth yr un fath â'r hyn rydym ei eisiau ar gyfer ein plant ein hunain"

Meddai Felicity Collier, Prif Weithredwr BAAF:
"Mae angen llethol i wneud yn well dros blant sy'n derbyn gofal cyhoeddus. Dyw hi ddim yn ddigon da nad oes dewis o ofalwr maeth i gymaint o blant, ac nad yw gofalwyr maeth yn derbyn cyflog byw yn dâl drwy gydol y flwyddyn er mwyn iddynt fod ar gael pan fo angen. Mae'r adroddiad yn cyflwyno'r achos am fuddsoddi tymor hir, wedi'i gynllunio, yn y plant sydd mewn perygl o ddod yn rhieni i blant tlotaf yfory yn hytrach na bod yn ddinasyddion hapus, economaidd weithredol. Rydym yn gwybod fod y cyfanswm yn un enfawr, ond credwn fod modd cael arbedion tymor hir yn y gwasanaethau oedolion a chefnogi teuluoedd y mae cymaint o blant sy'n derbyn gofal eu hangen drwy gydol eu bywydau ar hyn o bryd."

Mae'r adroddiad yn dangos bod angen i lywodraethau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr wario tua £1.7 biliwn yn 2005/06. Mae diffyg o £37.8 miliwn yng Nghymru a £748 yn y DU mewn cyllido rhwng y gwariant a nodwyd yn 2003/4 a'r cyllid sydd ei angen yn 2005/06. Mae'r Rhwydwaith Maethu a BAAF yn argymell y dylid gweld y cyllido ychwanegol fel buddsoddiad yn un o'r grwpiau mwyaf bregus o fewn cymdeithas.

Meddai Sally Ellis, Ysgrifennydd Cynorthwyol ADSS Cymru:
"Mae ADSS Cymru'n croesawu'r adroddiad hwn ar gost gofal maeth. Mae sicrhau lleoliadau o ansawdd da ar gyfer plant sy'n derbyn gofal yn flaenoriaeth uchel ar gyfer pob awdurdod yng Nghymru. Mae angen llawer o sgil a chefnogaeth briodol i ofalu am blant a phobl ifanc all fod â chefndiroedd cythryblus. Mae'n hanfodol bod gofalwyr maeth yn cael y gefnogaeth, y gwerthfawrogiad a'r tâl priodol am y gwaith y maent yn ei wneud."

Canfyddiadau allweddol

  1. Yn 2003/4 gwariodd llywodraethau Cymru, yr Alban, Gogledd Iwerddon a Lloegr tua £932.2 miliwn ar wasanaethau gofal maeth. Rydym wedi amcangyfrif bod angen i'r llywodraethau wario o leiaf £1.7 biliwn yn 2005/6, sy'n golygu bod diffyg o bron i £748 miliwn ar draws y DU ar hyn o bryd.
  2. 2. £748 miliwn yw'r diffyg yn y cyllido rhwng y gwariant a nodwyd yn 2003/4 a'r cyllid sydd ei angen yn 2005/6. Dyma'r diffyg mewn cyllido ar gyfer pob un o'r gwledydd yn 2005/6:
    • Cymru - £37.8 miliwn
    • Yr Alban - £65.5 miliwn
    • Gogledd Iwerddon - £28.5 miliwn
    • Lloegr - £615.7 miliwn
  3. Mae cyfrifiadau'r adroddiad yn seiliedig ar y rhagdybiaethau isod:
    • Dylai pob gofalwr maeth gael eu talu lwfans gofynnol y Rhwydwaith Maethu ar gyfer plant dan eu gofal
    • Dylai gofalwyr maeth sy'n gwneud eu hunain ar gael am 52 wythnos y flwyddyn, drwy gytundeb gyda'u hasiantaeth, dderbyn ffi drwy gydol y flwyddyn;
    • Dylai hyfforddiant ôl-gymeradwyo fod yn rhan hanfodol o wasanaeth gofal maeth effeithiol a dylai o leiaf 50% o ofalwyr maeth fod wedi eu hyfforddi i Lefel 3 S/NVQ Level 3 neu lefel cymwysterau cywerth;
    • Yn aml mae gan blant sy'n derbyn gofal maeth anghenion addysgol a iechyd ychwanegol, a dylai'r ddarpariaeth o help a chyngor arbenigol fod ar gael i ofalwyr maeth er mwyn gwella deilliannau, yn enwedig o fewn addysg;
    • Mae angen buddsoddiad sylweddol mewn rheoli gwasanaethau gofal maeth ac mewn gwasanaethau cefnogi gofalwyr maeth;
    • Mae angen buddsoddiad sylweddol er mwyn gwella recriwtio a dod o hyd i ofalwyr maeth all gwrdd ag anghenion plant o wahanol gefndiroedd.

- Diwedd -

Notes to Editors

Os hoffech ddod i'r lansiad neu os ydych am gael gwybodaeth bellach a chopi o'r adroddiad, cysylltwch â Claire Dickinson neu Garry Lemon yn y Fostering Network ar 020 7620 6441 neu 07963 458953 e-bost media@fostering.net neu Daisy O'Clee neu Lucy Handford yn BAAF ar 020 7593 2053 neu 07767 444589 e-bost: daisy.oclee@baaf.org.uk neu lucy.handford@baaf.org.uk

go to top

Press releases:
Media:

Also see:
English language version

 
Copyright BAAF and its suppliers © 1999 - 2008.
British Association for Adoption and Fostering is a registered charity no. 275689 (England and Wales) and SC039337 (Scotland)
Registered as a company limited by guarantee in England and Wales no. 01379092. VAT no. 235 3764 58
Registered office at Saffron House, 6-10 Kirby Street, London EC1N 8TS (map)
Tel 020 7421 2600 | email mail@baaf.org.uk
Privacy policy | Security policy | Complaints procedures | webmaster@baaf.org.uk | This website and other BAAF websites
BAAF is not responsible for the contents of external websites.