|
Mae'r wybodaeth hon yn gymwys i'r DU gyfan
Mae'r dudalen hon yn amlinellu'r adnoddau a'r gweithdrefnau sydd ar gael i bobl sydd wedi'u mabwysiadu ac sydd eisiau olrhain eu perthnasau biolegol, a'r camau y gall perthnasau biolegol eu cymryd i ganiatáu neu atal cysylltiad gan bobl sydd wedi'u mabwysiadu.
Ar y dudalen hon:
> Ydy pobl sydd wedi'u mabwysiadu eisiau cael gwybod am eu teuluoedd biolegol?
> Beth yw rôl rhieni sy'n mabwysiadu o ran rhannu gwybodaeth?
> Sut gall unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu gael hyd i'w dystysgrif geni, a chael gwybod pam y cafodd ei fabwysiadu?
> Cymorth a chefnogaeth
> Penderfynu olrhain?
> Cofrestri Cyswllt Mabwysiadu
> Canolfannau ôl-fabwysiadu
> Beth all rhieni biolegol a pherthnasau biolegol eraill ei wneud i gael cysylltiad?
> Beth all rhieni biolegol ei wneud i osgoi cysylltiad?
> Beth all oedolion sydd wedi'u mabwysiadu ei wneud i osgoi cysylltiad?
Ydy pobl sydd wedi'u mabwysiadu eisiau cael gwybod am eu teuluoedd biolegol?
Arferai pobl feddwl os oedd plant sydd wedi'u mabwysiadu yn hapus yn eu teuluoedd newydd, ni fyddent eisiau gwybod am eu rhieni gwreiddiol. Ond gwyddwn erbyn hyn nad yw hyn yn wir. Mae nifer o oedolion sydd wedi'u mabwysiadu wedi esbonio waeth pa mor agos ac mor gariadus y teimlant tuag at eu rhieni sydd wedi'u mabwysiadu, maen nhw eisiau gwybod am eu gwreiddiau o hyd.
Amcangyfrifir bod mwy na 50 y cant o fenywod a 30 y cant o ddynion sydd wedi'u mabwysiadu y tu allan i'w teulu biolegol yn gwneud rhai ymholiadau ynghylch olrhain eu teulu gwreiddiol. Bydd nifer mwy eisiau cael hyd i'w tystysgrifau geni, neu gael peth gwybodaeth am eu teuluoedd biolegol.
Beth yw rôl rhieni sy'n mabwysiadu o ran rhannu gwybodaeth?
Flynyddoedd yn ôl, nid oedd rhieni sy'n mabwysiadu yn cael llawer o wybodaeth gefndir ac nid oeddent yn cael eu hannog neu eu cynorthwyo i rannu'r wybodaeth hon â'u plant.
Erbyn heddiw mae rhieni sy'n mabwysiadu yn cael cymaint o wybodaeth am deulu biolegol eu plentyn ag y bo modd - a chânt eu hannog i drosglwyddo'r wybodaeth hon (gweler ein nodyn cyngor Siarad am wreiddiau am fwy o gymorth gyda hyn).
Gall hyn gynnwys gwybodaeth am deulu biolegol y plentyn, amgylchiadau cynnig y plentyn i'w fabwysiadu, ei enw geni, ac enw'r asiantaeth fabwysiadu (os oedd un yn rhan o'r broses).
Mae'n fuddiol iawn i bobl sydd wedi'u mabwysiadu i gael cymaint o wybodaeth ag y bo modd am eu teuluoedd biolegol, oherwydd gall hyn helpu sefydlu ymdeimlad o hunaniaeth a chyflawnrwydd.
Sut gall unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu gael hyd i'w dystysgrif geni, a chael gwybod pam y cafodd ei fabwysiadu?
Mae hawl gan bobl sydd wedi'u mabwysiadu yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon gael copi o'u tystysgrif geni wreiddiol pan fyddant yn 18 oed. Mae'r un hawl gan bobl sy'n cael eu mabwysiadu yn yr Alban pan fyddant yn 16 oed.
Cewch dystysgrif geni trwy eich Swyddfa Cofrestr Gyffredinol yng Nghymru a Lloegr, yr Alban neu Ogledd Iwerddon.
Mae'n rhaid i bobl a gafodd eu mabwysiadu cyn 12 Tachwedd 1975 yng Nghymru a Lloegr a chyn 8 Rhagfyr 1987 yng Ngogledd Iwerddon sydd eisiau gwybodaeth am eu cofnodion geni ac nid ydynt yn gwybod eu henw geni eisoes (dim ond eu henw wedi'i fabwysiadu) gael cyfarfod â gweithiwr cymdeithasol (cynghorwr) cyn y gallant gael eu tystysgrif geni, oherwydd newidiodd y cyfreithiau ynghylch cael mynediad i dystysgrifau geni ar yr adegau hyn.
Gall y cyfarfod hwn gael ei gynnal yn yr adran gwasanaethau cymdeithasol (edrychwch yn y llyfr ffôn), neu yn yr asiantaeth wirfoddol a drefnodd y mabwysiadu neu yn y Swyddfa Cofrestr Gyffredinol.
Gall yr asiantaeth fabwysiadu a drefnodd y lleoliad gynnig gwybodaeth hefyd yn ogystal â chyngor a chefnogaeth.
Cymorth a chefnogaeth
Os nad oes angen i chi weld cynghorwr i gael eich tystysgrif geni (fel yr amlinellir uchod) gallwch ddewis weld un o hyd. Gallwch wneud hyn unrhyw le yn y DU, a gallwch ffonio llinellau cyngor BAAF neu gysylltu â chanolfan cymorth ôl-fabwysiadu i gael mwy o gyngor neu wybodaeth.
Penderfynu olrhain?
Mae nifer y bobl sydd wedi'u mabwysiadu ac sy'n penderfynu cael hyd i'w tystysgrif geni i chwilio am eu rhieni biolegol yn cynyddu, ond prin iawn yw'r rheiny sy'n gwneud yr ymholiadau hyn yn 18 oed neu'n 16 oed - mae llawer mwy yn gwneud hyn nes ymlaen yn eu bywyd.
Os ydych yn unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu ac yn ystyried olrhain efallai y bydd diddordeb gennych yn ein nodyn cyngor Os ydych wedi'ch mabwysiadu sy'n cynnwys llawer mwy o gymorth a chyngor.
Cofrestri Cyswllt Mabwysiadu
Gall pobl sydd wedi'u mabwysiadu a pherthnasau biolegol gofrestru gyda chofrestri cyswllt mabwysiadu. Mae'r rhain yn cynnig modd i berthnasau biolegol adael eu manylion, neu lythyr ar gyfer yr unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu, neu fanylion cyfryngwr, i'r unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu eu canfod.
Os yw'r perthnasau biolegol yn cysylltu â'r gofrestr yn gyntaf, caiff y manylion eu trosglwyddo i'r sawl sydd wedi'i fabwysiadu os yw ef neu hi yn cysylltu â'r gofrestr. Os yw'r unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu yn cysylltu yn gyntaf cânt eu hysbysu os yw unrhyw berthnasau biolegol yn cofrestru.
Mae'r Swyddfa Cofrestr Gyffredinol yng Nghymru a Lloegr yn gweithredu Cofrestr Cyswllt Mabwysiadu i bobl sydd wedi'u mabwysiadu yno. Yn ogystal, mae'r Sefydliad Cenedlaethol ar gyfer Cynghori'r Rhai Mabwysiedig a Rhieni (NORCAP) yn gweithredu Cofrestr Gyswllt anstatudol ar gyfer Cymru a Lloegr. Mae'n werth cofrestru gyda'r ddau.
Mae cofrestr statudol debyg i bobl sydd wedi'u mabwysiadu yng Ngogledd Iwerddon yn cael ei gweithredu gan y Cofrestrydd Cyffredinol yn Belfast.
Mae Family Care yn gweithredu gwasanaeth anstatudol i'r rheiny sydd wedi'u mabwysiadu yn yr Alban, o'r enw Birthlink.
Gall yr asiantaeth fabwysiadu dan sylw hefyd cynorthwyo pobl i olrhain eu perthnasau neu wneud cysylltiad yn aml.
Canolfannau ôl-fabwysiadu
Mae canolfannau ôl-fabwysiadu yn cynnig cymorth, cefnogaeth, cyngor, gwybodaeth a gwasanaeth cynghori i berthnasau biolegol, pobl sydd wedi'u mabwysiadu a theuluoedd sy'n mabwysiadu. Gallant hefyd gynorthwyo gydag olrhain yn aml.
Mae canolfannau ôl-fabwysiadu yn cynnwys:
Trwy'r DU
NORCAP
The Association of Transracially Adopted and Fostered People (ATRAP)
Cymru
Ar ôl Mabwysiadu (ar gyfer rhai rhannau o Gymru a Lloegr)
Lloegr
After Adoption (some parts of England and Wales)
The Post Adoption Centre
West Midlands Post-Adoption Service
Yr Alban
Birthlink
Scottish Adoption Advice Service
Suite 5/3, Skypark SP5
45 Finnieston Street
Glasgow G3 8JU
Telephone: 0141 248 7530
Fax: 0141 222 4739
E-mail: saas@barnardos.org.uk
Mae'n bosib y gall eich swyddfa BAAF leol eich helpu i gael hyd i fwy o wasanaethau yn eich ardal.
Beth all rhieni biolegol a pherthnasau biolegol eraill ei wneud i gael cysylltiad?
- Cofrestru â'r Gofrestr Cyswllt Mabwysiadu briodol.
- Cysylltu â'r asiantaeth fabwysiadu a drefnodd y mabwysiadu, a fydd efallai yn gallu helpu.
- Cysylltu â NORCAP sy'n cynnig cyfleusterau chwilio ac sy'n cynnig gwasanaeth cynghori a gwasanaethau eraill.
- Cysylltu â chanolfan ôl-fabwysiadu am gymorth, cyngor a chefnogaeth.
O Fedi 2005, pan ddaw Deddf Mabwysiadu a Phlant 2002 i rym yng Nghymru a Lloegr, bydd hawl gan berthnasau biolegol yno wneud cais am wasanaeth cyfryngu. Gweler ein tudalennau ISSP am fanylion.
Mae hyn yn golygu y gall perthnasau biolegol gysylltu ag asiantaeth fabwysiadu, gan gynnwys asiantaethau cymorth mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr, i ofyn iddynt leoli'r unigolyn/oedolyn sydd wedi'i fabwysiadu er mwyn rhoi gwybod iddo/iddi fod diddordeb ganddynt gysylltu â nhw.
Er nad oes hawl cyfreithiol cyfatebol, gall perthnasau biolegol yn yr Alban ofyn am a derbyn yr un math o wasanaeth.
Nid yw unrhyw wybodaeth adnabod yn cael ei rhoi ac fel rheol bydd y gwasanaethau yn cael eu darparu ar gyfer perthnasau biolegol dim ond os yw'r unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu yn 18 oed ac yn hyn.
Beth all rhieni biolegol ei wneud i osgoi cysylltiad?
Ar hyn o bryd, nid yw'r cofrestri cyswllt mabwysiadu yn gwneud unrhyw ddarpariaeth uniongyrchol i chi gofrestru eich dymuniad i beidio â chael pobl i gysylltu â chi.
Fodd bynnag, os ydych yn cofrestru ac yn defnyddio cyfryngwr, gallwch ofyn i'r unigolyn hwnnw esbonio i'ch mab/merch pam nad ydych yn awyddus iddo/iddi gysylltu â chi, a gadael unrhyw wybodaeth (gwybodaeth feddygol, er enghraifft) y mae ef/hi efallai yn chwilio amdano. Neu gallwch ysgrifennu llythyr i'r cyfryngwr ei roi iddynt.
Heb roi unrhyw fanylion am eich enw neu gyfeiriad presennol, gallai eich llythyr esbonio yn onest pam nad ydych chi eisiau cwrdd ar yr adeg hon, ac efallai pam y cafodd eich plentyn ei fabwysiadu (rhywbeth y bydd pobl sydd wedi'u mabwysiadu yn meddwl mor aml amdano). Gallwch ddweud eich bod yn dymuno pob hapusrwydd a bodlonrwydd iddynt hefyd.
Os cafodd y mabwysiadu ei drefnu gan asiantaeth fabwysiadu gallech hefyd adael llythyr gyda'r asiantaeth sy'n cadw'r cofnodion.
Bydd staff yn y canolfannau ôl-fabwysiadu neu sefydliadau hunangymorth yn gallu eich helpu i gael gwybod ble mae'r cofnodion.
Beth all oedolion sydd wedi'u mabwysiadu ei wneud i osgoi cysylltiad?
Fel oedolyn sydd wedi'i fabwysiadu, bydd eich enw yn cael ei gadw'n gyfrinachol ac ni fydd yn cael ei roi i'ch perthnasau biolegol. Gallwch benderfynu p'un ai i gael unrhyw gysylltiad neu beidio os yw cyfryngwr yn cysylltu â chi ar ran eich perthynas biolegol.
Cysylltiadau
Nodiadau Cyngor
If you are an adoptive parent you may be interested in our advice note Talking about origins
Os ydych yn rhiant sydd wedi mabwysiadu efallai y bydd ein nodyn cyngor Siarad am wreiddiau o ddiddordeb i chi.
Os ydych yn unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu ac yn ystyried goblygiadau cael hyd i fwy o wybodaeth am eich perthnasau biolegol neu eu holrhain, efallai y bydd ein nodyn cyngor Os ydych wedi cael eich mabwysiadu o ddiddordeb i chi.
Os ydych yn berthynas biolegol unigolyn sydd wedi'i fabwysiadu efallai y bydd ein nodyn cyngor Plentyn o'r gorffennol o ddiddordeb i chi.
Llyfrau
The Adoption Triangle Revisited - A study of adoption, search and reunion experiences gan John Triseliotis, Julia Feast a Fiona Kyle
BAAF, 2005
Llyfrau eraill BAAF ar chwilio ac olrhain
Os oes angen mwy o wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth arnoch, ffoniwch un o'n llinellau cyngor rhanbarthol.
|