BAAF
Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain
Cwestiynau Cyntaf

Home
> About BAAF
> Join BAAF
> Members' area
> Media
> Campaigns
> Contact BAAF

Fostering & adoption
> First questions
> Legislation & practice
> Statistics
> Financial information

Resources
> Publications
> Journal
> Training & conferences
> Advice & consultancy
> Consultations
> Find an agency
> Links

You can help
> Donate
> Fundraising

Yn feichiog ac yn ystyried mabwysiadu?

Hafan > Gwybodaeth mabwysiadu a maethu > Cwestiynau Cyntaf > Yn feichiog ac yn ystyried mabwysiadu?
Mae'r wybodaeth hon yn gymwys i'r DU gyfan

Ar y dudalen hon:

Beth yn union yw mabwysiadu?
Sut ydw i'n cael gwybod am fabwysiadu?
Sut mae mabwysiadu yn cael ei drefnu?
Oes rhaid i dad y baban roi ei ganiatâd?
Pa fath o bobl fydd yn mabwysiadu fy maban?
Beth sy'n digwydd ar ôl i'm baban gael ei eni?
Alla i drefnu'r mabwysiadu fy hun?
Beth os ydw i'n newid fy meddwl?
Fydda i'n gweld fy mhlentyn eto?
Alla i gadw hyn yn gyfrinachol?
Gwneud y penderfyniad
Ffynonellau gwybodaeth a chymorth

Beth yn union yw mabwysiadu?

Mae mabwysiadu yn ffordd o roi rhieni cyfreithiol newydd i blentyn. Mae'n terfynu'r berthynas gyfreithiol rhwng y plentyn a'r rhieni biolegol ac yn sefydlu un newydd gyda'r rhieni sy'n mabwysiadu. Mae mabwysiadu yn cael ei drefnu gan asiantaethau mabwysiadu ond y llysoedd sy'n eu gwneud yn gyfreithiol rwymol. Ar ôl iddo gael ei roi, mae gorchymyn mabwysiadu yn derfynol ac nid oes modd ei ddadwneud.

go to top

Sut ydw i'n cael gwybod am fabwysiadu?

Mae'n syniad da cael cyngor arbenigol cyn gynted â phosib. Cewch y cyngor hwn gan:

  • Gweithwyr cymdeithasol yn adran gwasanaethau cymdeithasol (neu'r adran gwaith cymdeithasol yn yr Alban) eich awdurdod lleol
  • Asiantaeth fabwysiadu wirfoddol
  • Gweithwyr cymdeithasol ysbyty sy'n gweithio gyda chlinigau mamolaeth

Bydd eich Swyddfa BAAF leol yn gallu dweud wrthych gyda phwy y dylech gysylltu yn eich ardal.

go to top

Sut mae mabwysiadu yn cael ei drefnu?

Os ydych yn penderfynu mai mabwysiadu yw'r cynllun iawn i'ch baban chi, bydd y gweithiwr cymdeithasol yn yr asiantaeth yn gofyn i chi am ychydig o wybodaeth bersonol amdanoch chi, eich teulu ac iechyd eich teulu, er mwyn i'ch plentyn gael gwybod mwy amdanoch yn nes ymlaen.

Fodd bynnag, er y gall y gwaith o baratoi ar gyfer mabwysiadu ddechrau cyn bod eich plentyn yn cael ei eni, ni chaiff unrhyw beth ei drefnu yn derfynol tan ar ôl y geni. Byddwch yn gwbl rydd i newid eich meddwl.

go to top

Oes rhaid i dad y baban roi ei ganiatâd?

  • Os ydych yn ddi-briod ac nid yw'r tad wedi'i enwi ar y dystysgrif geni, nid oes angen cael ei ganiatâd ffurfiol. Bydd rhaid i'r gweithiwr cymdeithas gysylltu ag ef os oes modd, ond ni fyddwch yn cael eich gorfodi i'w enwi. Os oes modd, bydd yr asiantaeth fabwysiadu a'r llys eisiau cael ychydig o wybodaeth am y tad er mwyn iddynt allu ei throsglwyddo i'r mabwysiadwyr a'r plentyn.
  • Os ydych yn briod, a'ch gwr yw tad y plentyn, rhaid iddo gytuno'n ffurfiol â'r mabwysiadu.
  • Os ydych yn ddibriod ac mae'r tad wedi'i enwi ar y dystysgrif geni, rhaid iddo gytuno'n ffurfiol â'r mabwysiadu.
  • Os ydych yn briod ond nid eich gwr yw'r tad, bydd y gyfraith yn ystyried eich gwr fel y tad cyfreithiol o hyd oni bai ei fod wedi arwyddo datganiad fel arall. Yn yr achos hwn, rhaid cael caniatâd eich gwr ar gyfer mabwysiadu. Os oes modd, bydd yr asiantaeth fabwysiadu a'r llys eisiau cael ychydig o wybodaeth am y tad go iawn hefyd er mwyn iddynt allu ei throsglwyddo i'r mabwysiadwyr a'r plentyn.

Efallai na fydd tad y baban yn cytuno â'ch cynllun i fabwysiadu ac mae'n bosib y bydd yn dymuno magu'r baban ei hun.

Os nad ydych chi ac ef yn gallu cytuno bydd y llys yn gorfod barnu ai mabwysiadu neu fywyd gyda'r tad sy'n debygol o fod orau i'r plentyn yn y tymor hir.

go to top

Pa fath o bobl fydd yn mabwysiadu fy maban?

Mae cymaint o bobl sydd eisiau mabwysiadu baban felly dylai fod modd cael hyd i gartref gwych ar gyfer eich plentyn. Bydd y gweithiwr cymdeithasol yn trafod gyda chi y math o deulu rydych am i'ch plentyn gael ei fagu ynddo.

Dylech siarad â'r gweithiwr cymdeithasol am y posibilrwydd o gwrdd â'r teulu, os ydych eisiau gwneud hynny, neu am y mathau eraill o gysylltiad megis cyfnewid llythyrau.

go to top

Beth sy'n digwydd ar ôl i'm baban gael ei eni?

Pan fyddwch yn gadael yr ysbyty ar ôl yr enedigaeth gall gofalwr maeth dros dro ofalu am eich baban neu gall fynd yn syth i'w rieni sy'n mabwysiadu.

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol wedi trafod hyn ac wedi cytuno â chi beth yw'r cynllun gorau. Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn ymweld yn rheolaidd â'r plentyn er mwyn gwneud yn siwr bod popeth yn mynd yn iawn ac i gynnig cefnogaeth.

Pan fydd y baban wedi ymgartrefu gyda'i rieni sy'n mabwysiadu, byddant yn gwneud cais i'r llys.

Yna bydd y llys yn trefnu i rywun ymweld â chi a fydd yn gwneud yn siwr eich bod yn deall beth yw ystyr mabwysiadu. Gofynnir i chi arwyddo dogfen ffurfiol. Ni allwch roi'r cytundeb ffurfiol hwn hyd nes bod y baban yn chwe wythnos oed o leiaf.

Bydd rhaid i'r asiantaeth ddarparu adroddiad i'r llys sy'n disgrifio sut y mae'r plentyn yn ymgartrefu ac os yw'r llys yn fodlon fod popeth yn iawn bydd gorchymyn mabwysiadu yn cael ei roi. Ni all hyn ddigwydd nes bod y baban yn 19 wythnos oed o leiaf ac wedi byw gyda'r mabwysiadwyr am 13 wythnos.

Mae gweithdrefn arall, o'r enw 'rhyddhau', a all gael ei dilyn os ydych yn siwr eich bod chi eisiau i'ch baban gael ei fabwysiadu, oherwydd gall fod yn gyflymach i chi.

Bydd eich gweithiwr cymdeithasol yn gallu eich cynghori ar y drefn sydd orau i chi.

go to top

Alla i drefnu'r mabwysiadu fy hun?

Na allwch, oni bai fod eich plentyn yn cael ei fabwysiadu gan berthynas agos. Er mwyn amddiffyn y plentyn, rhaid i bob math arall o fabwysiadu gael ei drefnu trwy asiantaeth fabwysiadu gymeradwy a all wneud ymholiadau llawn am y rhieni newydd. Rhaid i bob math o fabwysiadu gael ei gytuno gan y llysoedd.

go to top

Beth os ydw i'n newid fy meddwl?

  • Os ydych yn newid eich meddwl cyn bod eich baban yn cael ei leoli gyda mabwysiadwyr gallwch ofyn iddo gael ei ddychwelyd atoch ar unwaith.
  • Os ydych yn newid eich meddwl ar ôl i'ch baban gael ei leoli gyda mabwysiadwyr ond cyn eu bod nhw wedi gwneud cais i'r llys byddai'r baban hefyd yn cael ei ddychwelyd atoch fel rheol, oni bai fod rhesymau da iawn.
  • Hyd yn oed os yw'r mabwysiadwyr wedi gwneud cais i'r llys am orchymyn mabwysiadu ac rydych chi wedi cytuno i hyn gallwch newid eich meddwl o hyd. Fodd bynnag, bydd rhaid darbwyllo'r llys ei fod er lles gorau'r plentyn i gael ei ddychwelyd i chi. Os ydych chi eisiau cael eich plentyn yn ôl ar y cam hwn, dylech ddweud wrth yr asiantaeth fabwysiadu ar unwaith a cheisio cyngor cyfreithiol.
  • Pan fydd y gorchymyn mabwysiadu wedi cael ei roi gan y llys ni fydd unrhyw berthynas gyfreithiol gennych mwyach gyda'r plentyn neu gyfrifoldebau am eich plentyn ac ni fyddwch yn gallu cael eich plentyn yn ôl.
go to top

Fydda i'n gweld fy mhlentyn eto?

Weithiau gall mabwysiadu gynnwys contract parhaol rhwng y rhieni biolegol a'r teulu sy'n mabwysiadu, naill ai wyneb yn wyneb neu drwy lythyr.

Fel arfer bydd yr asiantaeth yn ceisio cael hyd i deulu i'ch plentyn sy'n hapus i gael y math o gysylltiad yr hoffech chi ei gael, cyhyd â bod hyn er lles gorau eich plentyn hefyd.

go to top

Alla i gadw hyn yn gyfrinachol?

Cynghorir rhieni sy'n mabwysiadu i ddweud wrth blant o oedran cynnar eu bod nhw wedi'u mabwysiadu.

Wrth iddynt dyfu, bydd y rhan fwyaf o bobl sydd wedi'u mabwysiadu eisiau gwybod rhywbeth am eu cefndir.

Gall pobl sydd wedi'u mabwysiadu gael eu tystysgrif geni wreiddiol pan yn 18 oed (16 oed yn yr Alban), a bydd eich enw i'w weld ar y dystysgrif.

Gan ddefnyddio'r wybodaeth honno gallai'r person sydd wedi'i fabwysiadu geisio eich olrhain chi.

Mae cynghorwyr ôl-fabwysiadu arbennig mewn awdurdodau lleol a sefydliadau gwirfoddol sy'n gallu trafod eich sefyllfa arbennig gyda chi.

Mae cofrestri cyswllt mabwysiadu ar gyfer Cymru a Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon i hwyluso cysylltiad rhwng oedolion sydd wedi'u mabwysiadu a'u perthnasau biolegol.

Cewch fanylion cyswllt ar gyfer y cofrestri hyn a chynghorwyr yn ein nodyn cyngor Yn Feichiog ac yn ystyried mabwysiadu?.

go to top

Gwneud y penderfyniad

Mae'r penderfyniad a wnewch ynghylch dyfodol eich baban mor bwysig ac ni ddylech gael eich temtio i ruthro. Mynnwch yr holl gyngor ag y gallwch cyn gwneud penderfyniad.

Os, ar ôl ystyried yr holl bosibiliadau, rydych yn penderfynu mabwysiadu, ni ddylech deimlo eich bod yn troi eich cefn ar eich baban. Er ei fod yn benderfyniad anodd i'w wneud, mae'n un cyfrifol a gofalgar.

go to top

Ffynonellau gwybodaeth a chymorth

  • Eich meddyg
  • Y gweithiwr cymdeithasol yn yr ysbyty
  • Asiantaethau mabwysiadu gwirfoddol
  • Y gwasanaeth cymdeithasol neu adran gwaith cymdeithasol eich cyngor lleol
  • Eich swyddfa BAAF leol

Os oes angen mwy o wybodaeth, cyngor neu gefnogaeth arnoch, ffoniwch un o'n llinellau cyngor rhanbarthol.

go to top

> Could you adopt or foster?
> Join BAAF
> £££ Donate to BAAF today
Make text smaller Reset text size Make text bigger


Yn feichiog ac yn ystyried mabwysiadu?:
First questions:

Also see:
> Advice notes
> Cygnor
> BAAF Cymru

 
Hawlfraint BAAF a'i gyflenwyr. © 1999 - 2010.
Saffron House, 6-10 Kirby Street, London, EC1N 8TS (map) | ffôn 020 7421 2600 | e-bost mail@baaf.org.uk
Privacy policy | Security policy | Y drefn gwyno
Any comments about this website? E-bost webmaster@baaf.org.uk
BAAF is not responsible for the contents of external websites.
Limited Company 1379092. Registered Charity No. 275689