|
Mae'r wybodaeth hon yn gymwys i'r DU gyfan
Mae'r dudalen hon yn ymwneud â maethu trwy'r awdurdod lleol neu drwy asiantaeth fabwysiadu annibynnol sy'n gweithio gyda'r awdurdod lleol.
Ar y dudalen hon:
> Beth yw maethu?
> Oes gwahanol fathau o faethu?
> Ydy maethu yn swydd?
> Pwy sy'n 'cyflogi' gofalwyr maeth?
> Pa fath o bobl sy'n ofalwyr maeth?
> Sut caiff gofalwyr maeth eu recriwtio?
> Ydy gofalwyr maeth yn cael eu paratoi a'u hyfforddi?
> Ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
> Beth am fabwysiadu?
> Gwybodaeth bellach
Beth yw maethu?
Mae maethu yn ffordd o ddarparu bywyd teuluol i blant sy'n methu byw gyda'u rhieni eu hunain.
Fe'i defnyddir yn aml i ddarparu gofal dros dro tra bydd rhieni yn cael cymorth i ddatrys problemau, cymryd saib, neu gynorthwyo plant neu bobl ifanc trwy gyfnod anodd yn eu bywydau.
Yn aml bydd plant yn dychwelyd adref ar ôl i'r problemau a'u hachosodd iddynt fynd i ofal maeth gael eu datrys ac mae'n glir bod y rhieni yn gallu gofalu amdanynt yn ddiogel.
Gall eraill aros mewn gofal maeth tymor hir, gall rhai gael eu mabwysiadu, a bydd eraill yn symud i fyw'n annibynnol.
Oes gwahanol fathau o faethu?
Mae mathau o ofal maeth yn cynnwys:
- Brys - pan fydd angen rhywle diogel i aros ar blant am ychydig nosweithiau.
- Tymor byr - pan fydd gofalwyr yn gofalu am blant am ychydig wythnosau neu fisoedd, tra bod cynlluniau'n cael eu gwneud ar gyfer dyfodol y plentyn.
- Seibiau byr - pan fydd plant anabl neu blant ag anghenion arbennig neu anawsterau ymddygiad yn mwynhau arhosiad byr wedi'i gynllunio ymlaen llaw, yn gyson gyda theulu newydd, a bydd eu rhieni neu eu gofalwyr maeth arferol yn cael saib byr eu hunain.
- Maethu remand - pan fydd pobl ifanc yng Nghymru neu Loegr yn cael eu "remandio" gan y llys i ofal gofalwr maeth sydd wedi'i hyfforddi'n arbennig. Nid yw'r Alban yn defnyddio maethu remand oherwydd bydd pobl ifanc yn tueddu i fynychu gwrandawiad Plant yn hytrach na mynd i'r llys. Fodd bynnag, gallai'r gwrandawiad plant anfon person ifanc i uned gadarn ac mae rhai cynlluniau yn yr Alban erbyn hyn sy'n ystyried datblygu maethu fel dewis arall i lety cadarn.
- Tymor hir - nid yw pob plentyn sy'n methu â dychwelyd i'w teuluoedd eu hunain eisiau cael eu mabwysiadu, yn enwedig plant hyn neu'r rheiny sy'n parhau i gael cysylltiad rheolaidd â pherthnasau. Mae'r plant hyn yn byw gyda gofalwyr maeth tymor hir nes eu bod yn cyrraedd oedran oedolyn ac yn barod i fyw'n annibynnol.
- Maethu "teulu a ffrindiau" neu faethu "carennydd"- pan fydd plant sy'n derbyn gofal gan awdurdod lleol yn cael eu gofalu amdanynt gan bobl y maen nhw eisoes yn eu hadnabod. Gall hyn fod yn fuddiol iawn i'r plentyn, ac fe'i gelwir yn faethu "teulu a ffrindiau" neu faethu "carennydd". Os nad yw'r awdurdod lleol yn gofalu amdano, gall plant fyw gyda'u modrybedd, ewyrth, brodyr, chwiorydd neu neiniau a theidiau heb gysylltiad o'r tu allan.
- Maethu preifat - pan fydd rhieni yn gwneud trefniadau i'r plentyn aros gyda rhywun arall sydd heb fod yn berthynas agos ac sydd heb unrhyw gyfrifoldebau rhiant, ac mae'r plentyn yn aros gyda'r unigolyn hwnnw (y gofalwr maeth preifat) am fwy na 27 diwrnod. Er bod hyn yn drefniant preifat mae rheolau arbennig ynghylch sut y mae'r plentyn yn cael ei ofalu amdano. Rhaid dweud wrth yr awdurdod lleol am y trefniadau a bydd yr awdurdod lleol yn ymweld i archwilio lles y plentyn.
Mae gweddill y dudalen we hon yn ymwneud â maethu plentyn trwy asiantaeth (pob math o faethu ar wahân i faethu preifat). Am fwy o wybodaeth ynghylch maethu preifat gweler ein datganiad maethu preifat a nodyn cyngor.
Ydy maethu yn swydd?
Mae rhai gofalwyr maeth yn wirfoddolwyr, ond fe'u hystyrir fwyfwy yn weithwyr proffesiynol - gweler ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Pwy sy'n 'cyflogi' gofalwyr maeth?
Rôl y gofalwr maeth yw darparu gofal o ansawdd uchel ar gyfer y plentyn. Bydd pob plentyn mewn gofal maeth yn cael ei ofalu amdano gan awdurdod lleol a bydd y gofalwyr maeth yn gweithio mewn partneriaeth â'r awdurdod lleol i ddarparu hyn.
Gall y gofalwyr maeth hefyd weithio â gweithwyr proffesiynol eraill megis therapyddion, athrawon neu feddygon i helpu'r plentyn ddelio â thrawmâu emosiynol neu anableddau corfforol neu ddysgu.
Am fwy o wybodaeth gweler ein nodiadau cyngor ar ofal maeth .
Pa fath o bobl sy'n ofalwyr maeth?
Mae angen ystod eang o bobl ar asiantaethau maethu i ateb anghenion gwahanol iawn plant a phobl ifanc.
Mae'n well i blant fyw gyda gofalwyr maeth sy'n adlewyrchu ac yn deall treftadaeth, tras ethnig, diwylliant ac iaith y plentyn, ac mae angen i asiantaethau maethu gael gofalwyr o bob math o gefndiroedd.
Nid oes rhaid i bobl fod yn briod i fod yn deulu maeth - gallant fod yn sengl, wedi ysgaru neu'n cyd-fyw. Gall dynion hoyw a lesbiaid fod yn ofalwyr maeth, ond yn yr Alban gallant wneud hynny fel unigolion sengl yn unig sy'n byw ar eu pennau eu hunain; ni all pobl mewn cartrefi lle mae 2 neu ragor o oedolion o'r un rhyw nad ydynt yn perthyn i'w gilydd faethu.
Nid oes unrhyw derfynau oedran uchaf ar gyfer maethu, ond bydd asiantaethau maethu yn disgwyl i bobl fod yn ddigon aeddfed i weithio gyda'r problemau cymhleth a fydd gan blant sydd angen eu maethu, ac yn ddigon ffit i gyflawni'r dasg galed hon!
Sut caiff gofalwyr maeth eu recriwtio?
Bydd asiantaethau maethu yn recriwtio gofalwyr newydd trwy ymgyrchoedd cyhoeddusrwydd neu hysbysebion papur newydd neu radio yn aml. Efallai y bydd stondinau gwybodaeth ganddynt mewn llefydd cyhoeddus.
Os oes diddordeb gennych fod yn ofalwr maeth, y cam cyntaf gorau yw cysylltu â thîm maethu eich awdurdod lleol neu gyda'r asiantaeth faethu yn eich ardal. Fe welwch ei manylion yn y llyfr ffôn neu yn ein cronfa ddata asiantaethau.
Ydy gofalwyr maeth yn cael eu paratoi a'u hyfforddi?
Mae angen i bobl sydd eisiau bod yn ofalwyr maeth gael eu paratoi a'u hasesu.
Maen nhw'n mynychu grwpiau lle y dysgant am anghenion plant sy'n dod i ofal maeth.
Ochr yn ochr â hyn, cânt ymweliadau gan weithiwr cymdeithasol.
Yna bydd y gweithiwr cymdeithasol yn paratoi adroddiad sy'n cael ei gyflwyno i'r panel maethu, sy'n argymell a yw'r person/teulu yma yn gallu bod yn ofalwyr maeth.
Nid yw'r hyfforddiant yn gorffen pan fydd rhywun yn dechrau bod yn ofalwr maeth. Rhaid i bob gofalwr gael adolygiad ac unrhyw hyfforddiant y mae ei angen bob blwyddyn i sicrhau eu bod yn addas i barhau i faethu.
Bydd rhai gofalwyr hefyd yn dilyn cymwysterau cenedlaethol megis NVQ lefel 3 Gofalu am Blant a Phobl Ifanc (neu SVQ yn yr Alban).
Am fwy o wybodaeth ynghylch hyfforddiant gofalwyr maeth gweler ein nodyn cyngor.
Ydy gofalwyr maeth yn cael eu talu?
Lwfansau
Mae pob gofalwr maeth yn derbyn lwfans i dalu am gost gofalu am blentyn yn eu cartref.
Ar gyfer gofalwyr maeth sy'n gweithio ar ran asiantaeth, mae hyn yn cael ei bennu gan yr asiantaeth faethu unigol, ac fel arfer mae'n dibynnu ar oedran y plentyn sy'n cael ei ofalu amdano.
Mae Rhwydwaith Maethu yn cynhyrchu canllaw blynyddol, Cyllid Gofal Maeth, sy'n argymell y lefelau lwfansau sylfaenol y cred y dylai asiantaethau eu talu.
Ffïoedd
Mae maethu yn cael ei ystyried fwyfwy fel rôl "broffesiynol" ac mae nifer o awdurdodau lleol ac asiantaethau maethu gwirfoddol ac annibynnol yn gweinyddu cynlluniau sy'n talu ffi i ofalwyr maeth. Gall hyn fod yn gysylltiedig ag anghenion arbennig y plentyn ond mae'n adlewyrchu sgiliau, galluoedd, cyfnod profiad neu arbenigedd proffesiynol y gofalwr maeth yn aml.
Rhyddhad treth
Mae cyflwyno rhyddhad treth yn 2003 yn golygu nad yw gofalwyr maeth yn y DU yn talu treth ar eu hincwm o faethu, hyd at uchafswm o £10,000 plws lwfansau.
Cyfraniadau Yswiriant Gwladol
Ers Ebrill 2003, bu hawl gan ofalwyr maeth gael Diogelwch Cyfrifoldeb Cartref - ffordd o sicrhau nad ydych yn cael llai o Bensiwn Ymddeol Sylfaenol dim ond oherwydd eich bod wedi aros gartref i ofalu am blentyn.
Beth am fabwysiadu?
Mae maethu yn wahanol i fabwysiadu oherwydd pan fydd plentyn mewn gofal maeth, mae cyfrifoldeb cyfreithiol gan rieni'r plentyn neu'r awdurdod lleol amdanynt o hyd. Ond pan fydd plentyn yn cael ei fabwysiadu, mae'r holl gyfrifoldeb cyfreithiol am y plentyn yn cael ei drosglwyddo i'r teulu newydd, fel pe bai'r plentyn wedi cael ei eni i'r teulu hwnnw, ac nid oes unrhyw gyfrifoldeb ffurfiol mwyach gan yr awdurdod lleol a'r rhieni biolegol am y plentyn.
Os nad oes unrhyw bosibilrwydd y bydd y plentyn yn dychwelyd i'w rieni, gwneir ymdrech i weld a yw unrhyw un arall yn y teulu yn gallu gofalu amdano. Os nad yw hyn yn bosib, rhaid cael hyd i deulu sy'n gallu darparu "lleoliad parhaol" i'r plentyn, er mwyn iddynt deimlo mor ddiogel â phosib. Mae hyn naill ai'n digwydd trwy faethu tymor hir neu fabwysiadu.
Os yw gofalwr maeth yn penderfynu ei fod eisiau mabwysiadu plentyn, gallant wneud cais i gael ei asesu fel
mabwysiadwr posib i'r plentyn hwnnw. Bydd ei addasrwydd yn cael ei ystyried yn yr un ffordd ag unrhyw un arall sy'n gwneud cais i fabwysiadu.
Gwybodaeth bellach
Mae ein nodyn cyngor Gofal Maeth - Rhai cwestiynau wedi'u hateb yn cynnwys mwy o wybodaeth ar yr holl feysydd uchod, a hefyd gwybodaeth am:
- Rôl gweithwyr cymdeithasol
- Sut beth yw cael eich maethu
- Beth mae'r gyfraith yn ei ddweud am faethu
- Prosesau cyfreithiol maethu
Mae gwybodaeth yn ein nodyn cyngor maethu preifat am faethu preifat.
Mae mwy o wybodaeth yn ein nodyn cyngor Ateb Anghenion Plant am y plant y mae angen eu mabwysiadu a'u maethu.
Mae ein nodyn cyngor siarad am wreiddiau yn cynnig cymorth wrth siarad â'r plentyn am ei wreiddiau.
Mae erthyglau yn y papur newydd Be My Parent a all helpu, a hefyd manylion am blant sydd angen teulu newydd parhaol.
Gweler hefyd pynciau llyfrau:
Os oes angen cyngor a chyngor pellach arnoch, ffoniwch ein llinellau cyngor.
|