BAAF
Cymdeithas Mabwysiadu a Maethu Prydain
Saffron House, 6-10 Kirby Street, London, EC1N 8TS (map) | ffôn 020 7421 2600 | e-bost mail@baaf.org.uk
Cwestiynau Cyntaf

Home
> About BAAF
> Your country or region
> Join BAAF
> Members' area
> Media
> Campaigns
> Contact BAAF

Fostering & adoption
> First questions
> Legislation & practice
> Statistics
> Financial information

Resources
> Publications
> Journal
> Training & conferences
> Advice & consultancy
> Consultations
> Find an agency
> Links

You can help
> Donate
> Fundraising

Mabwysiadu

Mae'r wybodaeth hon yn gymwys i'r DU gyfan

Ar y dudalen hon:

Beth yw mabwysiadu?
Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadu a maethu?
Pwy yw'r plant y mae angen eu mabwysiadu?
Pwy all fabwysiadu?
Sut mae pobl yn gwneud cais i fabwysiadu?
Sut mae pobl yn cael ei chymeradwyo i fabwysiadu?
Beth os nad ydych yn cael eich cymeradwyo i fabwysiadu?
Sut mae mabwysiadwyr cymeradwy yn cael eu paru â phlentyn?
Beth sy'n digwydd pan fydd y plentyn yn symud i mewn?
Sut mae mabwysiadu yn cael ei wneud yn gyfreithiol?
Ddylai plant gael gwybod eu bod wedi'u mabwysiadu?
Ydy rhieni biolegol a pherthnasau eraill yn cael unrhyw gysylltiad â'u plentyn ar ôl mabwysiadu?
Ydy plant sydd wedi'u mabwysiadu eisiau olrhain eu rhieni biolegol?
Beth am fabwysiadu o dramor?
Beth am fabwysiadu gan lysrieni?
Mae fy mhlentyn wedi cael neu'n mynd i gael ei fabwysiadu. Ble alla i gael cymorth?
Rwy'n rhiant sy'n mabwysiadu. Allwch chi ddweud wrthyf ble y gallaf gael cymorth?
Gwybodaeth bellach

Beth yw mabwysiadu?

Mae mabwysiadu yn ffordd o ddarparu teulu newydd i blant sy'n methu â chael eu magu gan eu rhieni eu hunain.

Mae'n drefn gyfreithiol lle mae'r holl gyfrifoldeb rhiant yn cael ei drosglwyddo i'r mabwysiadwyr.

Ar ôl i orchymyn mabwysiadu gael ei roi ni ellir ei wrth-droi ac eithrio mewn achosion prin iawn.

Mae plentyn sydd wedi'i fabwysiadu yn colli'r holl gysylltiadau cyfreithiol â'i fam a'i dad cyntaf (y "rhieni biolegol") ac mae'n dod yn aelod llawn o'r teulu newydd, gan gymryd enw'r teulu fel arfer.

go to top

Beth yw'r gwahaniaeth rhwng mabwysiadu a maethu?

Mae gofalwyr maeth yn rhannu'r cyfrifoldeb am y plentyn gydag awdurdod lleol a rhieni'r plentyn.

Mae maethu yn drefniant dros dro fel arfer, er mai gofal maeth yw'r cynllun efallai nes bod y plentyn yn troi'n oedolyn. Ni all y maethu tymor hir neu "barhaol" hwn ddarparu'r un diogelwch cyfreithiol â mabwysiadu ar gyfer naill ai'r plentyn neu'r teulu maeth ond efallai mai dyma fydd y cynllun iawn ar gyfer rhai plant.

Gweler ein tudalen maethu am fwy o wybodaeth.

go to top

Pwy yw'r plant y mae angen eu mabwysiadu?

Mae hyd a 5,000 o blant yn y DU yn aros am deuluoedd newydd parhaol. Daw'r plant hyn o amrywiaeth fawr o gefndiroedd ethnig a chrefyddol.

Mae nifer o'r plant hyn yn blant oedran ysgol ac mae mwy na hanner ohonynt mewn grwpiau o frodyr a chwiorydd y mae angen eu lleoli gyda'i gilydd.

Mae plant anabl a phlant sydd â datblygiad ansicr yn y dyfodol - gweler ein nodyn cyngor Ateb Anghenion Pant am fwy o fanylion (gall ein prosiect Agor Drysau fod o ddiddordeb hefyd).

Bydd rhai plant wedi cael eu cam-drin a bydd pob un ohonynt wedi profi symud ac ansicrwydd a gall eu hymddygiad fod yn heriol o ganlyniad.

go to top

Pwy all fabwysiadu?

  • Mae angen pobl o bob tras ethnig a chrefydd. Bydd asiantaethau bob amser yn ceisio cyfateb cefndir hiliol a diwylliannol y plant a'r rhieni sy'n mabwysiadu.

  • Nid yw pobl anabl wedi'u heithrio ac weithiau mae profiad o anabledd yn cael eu croesawu'n gadarnhaol.

  • Mae'n rhaid i bawb gael archwiliad meddygol a bydd angen ystyried materion iechyd.

  • Bydd angen ystyried cofnod o droseddau yn ofalus ond, ar wahân i rai troseddau yn erbyn plant, ni fydd hyn yn gwahardd rhywun o reidrwydd.

  • Yr unig ofyniad cyfreithiol yw bod mabwysiadwyr yn hyn na 21 oed. Er nad oes unrhyw derfyn oedran uchaf, ni fyddai nifer o asiantaethau yn disgwyl cael blwch oedran o fwy na ryw 45 mlynedd rhwng y plentyn a'u rhieni sy'n mabwysiadu. Ond mae hyn yn hyblyg.

  • Gall person sengl, neu un partner mewn pâr dibriod - gwahanrywiol, lesbiaidd neu hoyw - fabwysiadu. O Fedi 2005 bydd parau dibriod yng Nghymru a Lloegr yn gallu gwneud cais i fabwysiadu ar y cyd.

  • Mae llawer mwy o bobl sydd eisiau mabwysiadu babanod croenwyn heb anableddau na'r babanod o'r fath sydd angen cartrefi. Oherwydd hyn, bydd rhai asiantaethau yn cau eu rhestr aros i ddarpar fabwysiadwyr ar gyfer y babanod hyn.

Am fwy o wybodaeth, gweler ein nodyn cyngor: Mabwysiadu - Rhai cwestiynau wedi'u hateb.

go to top

Sut mae pobl yn gwneud cais i fabwysiadu?

Bydd angen iddynt fynd trwy asiantaeth fabwysiadu. Mae rhai asiantaethau - megis Barnardo's - yn wasanaethau gwirfoddol; mae'r rhan fwyaf yn rhan o wasanaethau cymdeithasol yr awdurdod lleol (yng Nghymru a Lloegr) neu'r adran gwaith cymdeithasol (yn yr Alban).

Gallwch gael hyd i asiantaeth yn agos i chi yn ein cronfa ddata asiantaethau, neu cewch hyd i fanylion cyswllt eich awdurdod lleol yn eich llyfr ffôn.

Nid yw pobl wedi'i chyfyngu i'w hardal leol eu hunain ond bydd y rhan fwyaf o asiantaethau yn gweithio'n fras o fewn pellter o 50 milltir i'w swyddfa.

Er ei fod yn bosib dilyn cais gydag un asiantaeth yn unig, gallwch gysylltu â sawl un yn gynnar yn y broses.

go to top

Sut mae pobl yn cael ei chymeradwyo i fabwysiadu?

Fel arfer mae'n cymryd o leiaf chwe mis i weithwyr cymdeithasol o asiantaeth fabwysiadu ddod i adnabod darpar fabwysiadwyr a'u helpu i baratoi am y dasg sy'n ei hwynebu.

Bydd ymholiadau cyfrinachol yn cael eu gwneud gyda'r gwasanaethau cymdeithasol lleol neu'r adran gwaith cymdeithasol a gyda'r heddlu.

Caiff ymgeiswyr archwiliad gan eu Meddyg Teulu a gofynnir iddynt ddarparu geirdaon personol gan o leiaf dau ffrind.

Bydd panel mabwysiadu'r asiantaeth yn ystyried adroddiad ar y cais ac yn argymell y dylai ymgeiswyr gael eu cymeradwyo fel mabwysiadwyr neu beidio.

go to top

Beth os nad ydych yn cael eich cymeradwyo i fabwysiadu?

Yn Lloegr, os yw'r asiantaeth yn bwriadu peidio â chymeradwyo'r darpar fabwysiadwyr, gall y mabwysiadwyr ofyn am adolygiad trwy'r Fecanwaith Adolygiad Annibynnol. Mae cynlluniau ar droed ar gyfer system adolygu yng Nghymru.

go to top

Sut mae mabwysiadwyr cymeradwy yn cael eu paru â phlentyn?

Ar ôl i ddarpar fabwysiadwyr gael eu cymeradwyo, bydd eu hasiantaeth yn ceisio eu paru â phlentyn.

Gallant hefyd ymateb i blant yn Be My Parent a chyhoeddiadau eraill sy'n chwilio am deuluoedd, e.e. Adoption Today a The Scottish Resource Network Newspaper neu'r cyfryngau lleol.

Yng Nghymru a Lloegr, mae asiantaethau hefyd yn cyfeirio darpar fabwysiadwyr at Gofrestr Fabwysiadu Cymru a Lloegr sy'n cysylltu plant sy'n aros â mabwysiadwyr cymeradwy sy'n aros.

Bydd y paru arfaethedig yn cael ei roi gerbron panel mabwysiadu a fydd yn penderfynu p'un ai i gymeradwyo'r lleoliad neu beidio.

go to top

Beth sy'n digwydd pan fydd y plentyn yn symud i mewn?

Bydd y plentyn yn symud i fyw gyda'i riant/rhieni newydd ar ôl cyfnod wedi'i gynllunio o gyflwyniadau sy'n para ychydig wythnosau neu fis neu ddau, yn dibynnu ar anghenion y plentyn.

Bydd gweithwyr cymdeithasol yn parhau i fod yn rhan o'r broses er mwyn cefnogi'r teulu newydd a'r plentyn o leiaf tan y bydd y gorchymyn mabwysiadu yn cael ei roi.

go to top

Sut mae mabwysiadu yn cael ei wneud yn gyfreithiol?

Ni all llys roi gorchymyn mabwysiadu nes bod y plentyn wedi byw gyda'r mabwysiadwyr am 13 wythnos o leiaf. Nid yw'r cyfnod hwn yn dechrau nes bod y plentyn yn chwe wythnos oed, felly nid yw unrhyw orchymyn byth yn cael ei roi cyn bod plentyn yn 19 wythnos oed.

Mae'r llys yn penodi Swyddog Adrodd sy'n gwneud yn siwr bod y rhieni biolegol yn deall beth yw mabwysiadu ac yn tystio eu bod yn cytuno â'r gorchymyn mabwysiadu.

Os nad yw'r rhieni biolegol yn cytuno â'r mabwysiadu gall y llys roi gorchymyn mabwysiadu o hyd yn aml ond mae hyn yn cymryd yn hwy.

Am fwy o wybodaeth gweler ein nodyn cyngor Mabwysiadu - rhai cwestiynau wedi'u hateb.

go to top

Ddylai plant gael gwybod eu bod wedi'u mabwysiadu?

Dylent. Mae sut a phryd y byddwch yn dweud wrth blentyn am y tro cyntaf yn dibynnu ar lefel dealltwriaeth y plentyn ond, yn gyffredinol y cyngor yw: gorau oll po gynharach a ddywedwch wrthynt.

Mae llyfr BAAF, Talking about Adoption to your Adopted Child, a'n nodyn cyngor Siarad am wreiddiau yn rhoi llawer mwy o wybodaeth.

go to top

Ydy rhieni biolegol a pherthnasau eraill yn cael unrhyw gysylltiad â'u plentyn ar ôl mabwysiadu?

Mae'n gyffredin i wybodaeth ysgrifenedig gael ei chyfnewid, efallai unwaith neu ddwywaith y flwyddyn, trwy'r asiantaeth fabwysiadu.

Bydd trefniadau unigryw i bob plentyn unigol a all olygu cysylltiad uniongyrchol i rai plant ag aelodau amrywiol o'u teulu biolegol, gan gynnwys neiniau a theidiau, a brodyr a chwiorydd a all fod wedi'u lleoli mewn man arall.

go to top

Ydy plant sydd wedi'u mabwysiadu eisiau olrhain eu rhieni biolegol?

Mae'r rhan fwyaf o blant sydd wedi'u mabwysiadu yn chwilfrydig ynghylch eu gwreiddiau, ond nid yw hyn yn golygu nad ydynt yn caru eu rhieni mabwysiadu.

Ers 1975 bu hawl gan bobl yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon weld eu tystysgrif geni wreiddiol pan yn 18 oed; yn yr Alban yr oedran yw 16 oed ac mae'r hawl hon wedi bodoli ers i fabwysiadu cyfreithiol gael ei gyflwyno gyntaf.

Mae rhai pobl yn fodlon â'r wybodaeth a'r ddealltwriaeth lawnach a gânt yn y ffordd hon, tra bydd eraill yn dymuno ceisio olrhain eu rhieni biolegol neu aelodau eraill o'u teulu.

Am fwy o wybodaeth a chyngor ynghylch chwilio, a'ch teimladau am hyn gweler ein nodyn cyngor Siarad am wreiddiau.

go to top

Beth am fabwysiadu o dramor?

Yn aml bydd pobl yn clywed am ofid plant mewn gwledydd eraill ac eisiau cynnig mabwysiadu un ohonynt. Ond nid yw buddiannau plant yn cael eu gwasanaethu orau o reidrwydd trwy gael eu mabwysiadu i ffwrdd o'u teuluoedd eu hunain, gan gynnwys y teulu estynedig a diwylliant.

Mae Nodyn Cyngor BAAF, Mabwysiadu Rhwng Gwledydd yn ymdrin â'r gweithdrefnau, gofynion cyfreithiol a ble i gael gwybodaeth bellach.

Gall Llinell Gymorth Mabwysiadu Dramor hefyd cynnig cymorth a chyngor. Ei rhif yw 0870 5168742.

go to top

Beth am fabwysiadu gan lysrieni?

Weithiau bydd llysrieini eisiau mabwysiadu'r plant o gyn berthynas eu gwr neu wraig newydd. Os yw hyn yn digwydd, bydd cysylltiadau cyfreithiol y plentyn â'u rhiant biolegol a'r teulu ehangach yn cael eu chwalu. Gall ffyrdd eraill o ddatrys sefyllfa'r plentyn fod yn well - gweler Nodiadau Cyngor BAAF, Llysblant a Mabwysiadu yng Nghymru a Lloegr a Llysblant a Mabwysiadu yn yr Alban.

go to top

Mae fy mhlentyn wedi cael neu'n mynd i gael ei fabwysiadu. Ble alla i gael cymorth?

Mae'r Grwp Hawliau Teulu yn darparu cyngor a chymorth i deuluoedd y mae eu plant yn ymwneud â'r gwasanaethau cymdeithasol.
www.frg.org.uk/index.asp

Mae'r Rhwydwaith Rhieni Biolegol yn gyswllt cenedlaethol ac yn sefydliad cefnogi i bobl sy'n byw gydag atgofion a theimladau mabwysiadu eu plentyn.
www.n-p-n.fsnet.co.uk/ Ffoniwch 0161 287 8737.

Efallai yr hoffech archebu I'Os yw'ch plentyn yn cael ei fabwysiadu' ac 'Yn feichiog ac yn ystyried mabwysiadu?' hefyd o gyfres Nodiadau Cyngor BAAF. Mae'r rhain wedi'u hanelu at deuluoedd sy'n rhoi eu caniatâd i'r mabwysiadu. Os nad ydych yn caniatáu'r mabwysiadu, dylech geisio cyngor cyfreithiol cyn gynted â phosib.

go to top

Rwy'n rhiant sy'n mabwysiadu. Allwch chi ddweud wrthyf ble y gallaf gael cymorth?

Sefydlwyd Mabwysiadu DU gan rieni sy'n mabwysiadu i gynnig cymorth, gwybodaeth, cyngor ac anogaeth i ddarpar fabwysiadwyr a mabwysiadwyr sefydledig.

Ffoniwch 0870 7700 450 11 a.m. i 4 p.m. (peiriant ateb ar adegau eraill) neu ymwelwch â www.adoptionuk.com am fwy o wybodaeth.

go to top

Gwybodaeth bellach

Mae ein nodyn cyngor Mabwysiadu - Rhai cwestiynu wedi'u hateb yn cynnwys mwy o wybodaeth ar bob un o'r meysydd uchod, a hefyd gwybodaeth am y canlynol:

  • Oes unrhyw gymorth ar ôl mabwysiadu?
  • Faint mae rhieni sy'n mabwysiadu yn cael gwybod am gefndir plentyn?
  • Safonau mabwysiadu

Mae ein llyfr Adopting A Child hefyd yn cynnwys y wybodaeth hon yn fwy manwl, a hefyd llawer mwy.

Os oes diddordeb gennych fabwysiadu plentyn o wlad arall, efallai yr hoffech brynu ein nodyn cyngor mabwysiadu rhwng gwledydd.

Os oes diddordeb gennych fabwysiadu eich llysblant, efallai y bydd diddordeb gennych yn ein nodiadau cyngor ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban.

Mae ein nodyn cyngor Siarad am wreiddiau yn cynnig cymorth wrth siarad â phlant am eu gwreiddiau.

Mae mwy o wybodaeth yn ein nodyn cyngor Ateb Anghenion Plant am blant sydd ag anghenion arbennig y mae angen eu mabwysiadu neu eu maethu.

Mae'r papur newydd Be My Parent yn cynnwys erthyglau a all helpu, a hefyd manylion am blant sydd angen teuluoedd newydd parhaol.

Also see book topics:

Os oes angen cymorth a chyngor pellach arnoch, ffoniwch ein llinellau cyngor.

go to top
Mabwysiadu:
First questions:

Also see:
> Books: for adoptive and foster parents
> Books: Adoption general issues
> Advice notes
> Legislation, policy and practice: adoption
> Black and ethnic minority recruitment project
> Opening doors disability project
> Find an adoption or fostering agency
> Cygnor
> BAAF Cymru

 

Hawlfraint BAAF a'i gyflenwyr. © 1999 - 2008.
Saffron House, 6-10 Kirby Street, London, EC1N 8TS (map) | ffôn 020 7421 2600 | e-bost mail@baaf.org.uk
Privacy policy | Security policy | Y drefn gwyno
Any comments about this website? E-bost webmaster@baaf.org.uk
BAAF is not responsible for the contents of external websites.
Limited Company 1379092. Registered Charity No. 275689