Cymraeg

Wendy Keidan, Director BAAF CymruCroeso i dudalen Cymru gan Wendy Keidan, Cyfarwyddwr

Ein tîm Caerdydd

Ein tîm Y Rhyl

Mabwysiadu & MaethuCroeso i dudalen BAAF Cymru a’r gwasanaethau yr ydym yn ei gynnig yng Nghymru. Mae BAAF Cymru yn gweithredu o ddwy swyddfa sydd wedi eu lleoli yn y Gogledd (Y Rhyl) a’r De (Caerdydd) ac yn cynnig amrywiaeth lawn o gyngor, gwybodaeth, hyfforddiant a chyhoeddiadau. Mae gwasanaeth dwyieithog ar gael yn swyddfa y Rhyl.

Ar ran yr holl Asiantaethau Mabwysiadu, Maethu a Gofal Plant yng Nghymru gallwn hefyd gynnig cyngor arbenigol at ateb anghenion plant lleiafrif ethnig du a phlant a phobol ifanc ffoaduriaid.

Hefyd cefnogwn Gonsortiwm Asiantaethau Mabwysiadu De Cymru – cysylltwch â www.swaac.org.uk

  • Maureen Ingham, Cydlynydd
  • Jenny Morgan a Tracy French, Staff Gweinyddol

a IRM Cymru irmcymru.org.uk

  • Maureen Ingham, Rheolwr Contract
  • Fiona Probert, Staff Gweinyddol

Ein hardal

Rydym yn gweithio trwy Gymru gyfan

Boundary of area Covered

Sut gallwn ni helpu

Mae croeso i staff cyfreithiol a gweithwyr proffesiynol meddygol yn ogystal â staff gwaith cymdeithasol ymweld â'n swyddfeydd i gael trafodaeth anffurfiol a defnyddio llyfrgell cyhoeddiadau BAAF.

Mae pob swyddfa yn cynnal diwrnod agored yn flynyddol i weithwyr cymdeithasol gofal plant a lleoliad teulu sy'n rhoi cyfle iddynt ymgyfarwyddo â'r amrywiaeth o wasanaethau a gynigir gan BAAF Cymru. Mae'r diwrnodau hyn yn rhad ac am ddim ac mae pob ymwelydd yn cael pecyn gwybodaeth. Cysylltwch â'ch swyddfa agosaf am fanylion pellach.

Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) – Ymateb BAAF Cymru i Ddiwygio Mabwysiadu.

Bydd Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn cyrraedd Cam Cyntaf y broses o ddod yn gyfraith pan gaiff ei gyflwyno i’r Cynulliad ar 29.1.13. darllenwch yr ymateb llawn yma.

Be sydd yn digwydd yng Nghymru

Ymateb Llywodraeth Cymru i Ymchwiliad y Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc i Fabwysiadu, Ionawr 2013

Mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru Pwyllgor Plant a Phobl Ifanc wedi derbyn ymateb Llywodraeth Cymru i argymhellion Adroddiad Mabwysiadu, sydd ar gael trwy’r linc isod:

http://www.assemblywales.org/bus-home/bus-business-fourth-assembly-laid-...

Bydd yr adroddiad a’r ymateb yn cael ei drafod yn y Cyfarfod Llawn, Dydd Mercher Ionawr 16, a gellir ei wylio ar Deledu’r Senedd trwy ddefnyddio y linc http://www.senedd.tv/#main

Ffilm i hybu ymwybyddiaeth mabwysiadu yng Nghymru

Gwyliwch ein ffilm newydd a wnaethpwyd gyda theuluoedd sydd yn mabwysiadu ar draws Cymru - gobeithir recriwtio mwy o fabwysiadwyr ar draws y wlad. Maent wedi rhannu eu storiau er mwyn ysbrydoli eraill i roi ‘teulu am byth’ i blentyn neu grwp sibling sydd yn methu byw gyda’u teulu geni.

Mae’r ffilm, sydd ag is deitlau Cymraeg, wedi ei gwneud gan y Gymdeithas Brydeinig Mabwysiadu a Maethu (BAAF) mewn partneriaeth gyda ‘BBC Outreach’- menter gwirfoddoli. Mae’n bosib ei gwylio ar sianel YouTube BAAF - youtube.com/adoptionfostering – a gall sefydliadau sydd yn aelodau ei lawr lwytho am ddim.

Ystadegau Cenedlaethol Plant Mewn Gofal

Yn ôl yr Ystadegau Gwladol diweddaraf ar Blant Mewn Gofal a gynhyrchir gan Lywodraeth Cymru mae Cymdeithas Brydeinig Mabwysiadu a Maethu (BAAF Cymru) yn falch o weld bod cynnydd yn y nifer o blant a leolwyd i’w mabwysiadu.

Cliciwch yma i weld ystadegau Cymru

Canllawiau Ymarfer: Rheoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru) (Diwygiadau) 2012

Mae BAAF Cymru wedi llunio Canllawiau Ymarfer i Reoliadau Asiantaethau Mabwysiadu (Cymru)(Diwygiadau) 2012 a’r canllawiau Statudol 2012 sydd yn cydfynd a nhw. Bydd y rhain yn cael eu diwygio yn dilyn adborth erbyn diwedd y flwyddyn. Gallwch ddarllen y ddogfen yma.

 

Adroddiad Blynyddol Cofrestr Mabwysiadu 2011/12

Mae’r adroddiad blynyddol diweddaraf wedi cael ei gyhoeddi ar y cyd a BAAF. Darllenwch yr adroddiad llawn yma

Bwletin Cyfreithiol BAAF Cymru

Manylion cyswllt:

BAAF Cymru
7 Ty Cleeve
Cilgant Lambourne
Caerdydd
CF14 5GP

Ffôn: 029 2076 1155
Ffacs: 029 2074 7934
ebost: cardiff@baaf.org.uk

Cardiff Office:


View BAAF office locations in a larger map

Manylion cyswllt:

BAAF Cymru Y Rhyl
W2
Canolfan Busnes Morfa Clwyd
84 Ffordd Marsh
Y Rhyl
Sir Ddinbych
LL18 2AF

Ffôn: 01745 336336
ebost: rhyl@baaf.org.uk

Rhyl Office:


View BAAF office locations in a larger map